'Angen rhoi mwy o ffocws ar gymwysterau galwedigaethol'

  • Cyhoeddwyd
Lewis Burrows
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ddelwedd sydd ynghlwm â chymwysterau BTEC yn annheg, yn ôl Lewis Burrows

Fe ddylai rhieni ac athrawon roi mwy o bwyslais ar gymwysterau galwedigaethol yn ôl corff y cyflogwyr, CBI Cymru.

Fe rybuddiodd cyfarwyddwr y corff, Ian Price, na ddylid "dibrisio" llwybrau ymarferol fyddai'n gallu arwain at yrfaoedd gwell yn y pendraw.

Bydd rhai myfyrwyr BTEC yn cael eu graddau terfynol heddiw cyn cyhoeddi canlyniadau arholiadau Safon Uwch yfory.

Am y tro cyntaf mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn dathlu diwrnod canlyniadau BTEC, i gyfateb â threfniadau Safon Uwch.

Mae BTEC yn gymhwyster ymarferol ac mae modd ei astudio yn lle, neu ar y cyd, gyda Safon Uwch.

Yn draddodiadol mae BTEC wedi cael ei asesu drwy aseiniadau drwy gydol y cwrs, ond erbyn hyn mae yna fwy o bwyslais ar arholiadau hefyd.

'Jôcs am BTEC yn yr ysgol'

Mae Lewis Burrows o'r Bontfaen wedi astudio BTEC mewn Cyfrifiadureg gyda seibr-ddiogelwch yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro, ac mae'n gobeithio mynd i'r brifysgol ym Mryste i barhau â'i astudiaethau.

Dywedodd Mr Burrows ei fod wedi astudio BTEC er mwyn dysgu sgiliau mwy arbenigol ac mae'n credu bod yna annhegwch am ddelwedd BTEC.

"Mae jôcs am BTEC yn yr ysgol, maen nhw'n meddwl bod BTEC yn hawdd ond dwi'n meddwl os oedden nhw'n gwneud cwrs BTEC byddai bobl yn gwybod ei fod yn anodd iawn," meddai.

Yn ôl UCAS, y gwasanaeth mynediad i brifysgolion, yn 2018 fe lwyddodd 10% o ymgeiswyr i gael mynediad i brifysgolion gyda chymwysterau BTEC yn unig, tra bod 7% arall wedi cael lle gyda chyfuniad o Safon Uwch a BTEC.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ian Price angen mwy o ymdrech i egluro beth yn union mae cymwysterau galwedigaethol yn gallu cynnig

Dywedodd Ian Price, Cyfarwyddwr y CBI yng Nghymru nad oedd digon o ddealltwriaeth am gymwysterau galwedigaethol o fewn y system addysg.

"Mae 'na lwybrau eraill i gyflogaeth heblaw trwy'r brifysgol a llwybr arholiadau Safon Uwch," meddai.

"Hoffwn weld ysgolion ac athrawon yn canolbwyntio mwy ar rai o'r cymwysterau galwedigaethol sydd ar gael."

'Angen egluro yn well'

Ychwanegodd Mr Price bod angen mwy o ymdrech i egluro i rieni beth yn union mae cymwysterau galwedigaethol yn gallu cynnig.

"Mae 'na bwysau mawr ger gatiau'r ysgol pan fydd rhieni'n siarad â'i gilydd am y cyrsiau mae eu plant yn eu dilyn.

"Mae angen i bobl sylweddoli, os ydyn nhw'n dilyn cwrs galwedigaethol, yn aml iawn maen nhw'n gallu cael gyrfa well nag efallai rhywun sy'n mynd i'r brifysgol."

Roedd data Llywodraeth Cymru o 2015 yn awgrymu bod tua hanner myfyrwyr TGAU wedi parhau i astudio Safon Uwch tra bod mwyafrif y gweddill wedi gwneud cymwysterau galwedigaethol, prentisiaethau neu hyfforddiant.