Y Bencampwriaeth: Blackburn 0-0 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Blackburn v CaerdyddFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe aeth Leanardo Bacuna yn agos at sgorio i Gaerdydd gyda'i ergyd yn tarro'r postyn

Mae Caerdydd wedi llwyddo i ennill eu pwynt cyntaf oddi cartref y tymor hwn yn dilyn gêm ddi-sgôr yn Blackburn brynhawn Sadwrn.

Fe wnaeth Joe Ralls a Leanardo Bacuna daro'r postyn i Gaerdydd ddwy waith yn ystod y gêm wrth i golwr Blackburn, Christian Walton lwyddo i gadw llechen lân.

Fu bron i Derrick Williams sgorio'n hwyri'r tîm cartref ond fe darodd ei ergyd y trawst.

Dyma'r tro cyntaf i'r ddau dîm gael gêm gyfartal y tymor hwn gyda'r canlyniad yn golygu bod y ddau dîm yn eistedd yng nghanol tabl y Bencampwriaeth.