Profion calon am ddim er cof am redwr hanner marathon
- Cyhoeddwyd
Bydd profion ar y galon yn cael eu cynnig i bobl am ddim er cof am redwr wnaeth farw yn Hanner Marathon Caerdydd y llynedd.
Bu farw Ben McDonald yn 25 oed - ynghyd â rhedwr arall - ar ôl cael ataliad ar y galon ar ddiwedd y ras ym mis Hydref 2018.
Bydd Ben McDonald Heart Screening Fund yn cynnig y profion i bobl rhwng wyth a 45 oed mewn digwyddiad yng Nghaerdydd ar 31 Awst.
Yn ôl mam Ben, Ruth McDonald, doedd sgrinio ar gyfer clefydau'r galon ddim yn rhywbeth roedd y teulu wedi ystyried gwneud.
"Chafodd Ben ddim prawf - doedden ni ddim wedi hyd yn oed meddwl ei fod yn opsiwn," meddai.
Casgliad y crwner oedd ei fod wedi marw o achosion naturiol.
"Does dim hanes o afiechyd ar y galon," meddai Ms McDonald, o Fro Morgannwg.
"Pe byddai wedi cael ei sgrinio byddai gyda ni brawf i edrych yn ôl arno fyddai efallai wedi rhoi rhyw gliw i ni pam wnaeth e farw."
Yr elusen Calonnau Cymru sydd yn rhoi'r nawdd ar gyfer y sgrinio.
Ym mis Ionawr cafodd deiseb ei chreu ganddyn nhw'n galw ar Lywodraeth Cymru i wneud profion ar y galon yn rhai am ddim i bobl rhwng 10 a 35 oed.
Maen nhw'n gobeithio codi £1m er mwyn cynnig y gwasanaeth.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, dim ond mewn achosion lle mae yna "dystiolaeth glir fod sgrinio yn gwneud mwy o les na drwg" y dylai profion i'r galon gael eu cynnig.
Maen nhw'n dweud nad yw Pwyllgor Cenedlaethol Sgrinio'r DU yn argymell sgrinio ond pe byddai profion mwy cywir yn cael eu dyfeisio y byddan nhw wedyn yn ystyried cynnig y profion i'r boblogaeth.
Mae'r llywodraeth hefyd yn dweud y dylai teuluoedd sydd wedi eu heffeithio gan farwolaethau o achos ataliad ar y galon gael "asesiad clinigol er mwyn asesu'r risg".
'Angen i ni wneud mwy'
Sharon Owen wnaeth sefydlu'r elusen ac mae'n dweud trwy wneud y profion bod "achosion difrifol" wedi dod i'r amlwg.
Wythnos ar ôl i Ben farw cafodd yr elusen tua 3,000 o alwadau'n gofyn am sgrinio ac fe wnaethon nhw gynnig mwy o sesiynau.
"Fe wnaeth hyn danlinellu bod angen i ni wneud mwy fel gwlad," meddai Ms Owen.
Bydd diwrnod sgrinio arbennig ar 5 Hydref, diwrnod cyn yr hanner marathon yn Ysgol St Cyres ym Mhenarth hefyd, sef yr ysgol yr aeth Ben iddo pan yn berson ifanc.
Bydd Ms McDonald a Ms Owen hefyd yn cerdded y cwrs hanner marathon gyda'i gilydd er cof am Ben.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mai 2019
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2019