Codi £500,000 yn 'hanfodol' i ddyfodol hostel ieuenctid

  • Cyhoeddwyd
Bryn Gwynant
Disgrifiad o’r llun,

Gobaith y Gymdeithas Hosteli Ieuenctid yw codi £2m er mwyn adnewyddu'r adeilad a'i droi yn hostel pum seren

Mae codi £500,000 yn "hanfodol" i ddyfodol hostel ieuenctid yn Eryri, meddai elusen.

Ers 1959 mae dros hanner miliwn o bobl wedi aros ym Mryn Gwynant ger Llyn Gwynant.

Ond mae'r Gymdeithas Hosteli Ieuenctid yn dweud bod y lle yn "disgyn yn ddarnau", sy'n cael effaith ar brofiad ymwelwyr.

Ei gobaith yw y byddai cyfanswm o £2m yn ddigon i adnewyddu'r palas o oes Fictoria a chreu'r hostel pum seren cyntaf yng ngogledd Cymru.

Llesol i'r corff a'r meddwl

Yn ôl Simon Ainley, sy'n bennaeth cyfalaf a chodi arian ar gyfer yr elusen, mae'r amser wedi dod i wneud y gwaith adeiladu.

"Rydyn ni'n cael miloedd o blant ysgol yma bob blwyddyn. Mae'r plant yn aml yn dod o lefydd ar draws Cymru a Lloegr, ardaloedd trefol," meddai.

"Mae'n beth da iddyn nhw i gael profi'r golygfeydd hyfryd yma a chefn gwlad.

"Rydyn ni'n gwybod bod plant ddim yn cael digon o ymarfer corff y dyddiau yma. Mae'n dda hefyd ar gyfer eu hiechyd meddwl."

Disgrifiad o’r llun,

Mae yna fygythiad i ddyfodol y safle os na fydd yr elusen yn gallu codi'r arian, medd Simon Ainley

Ymhlith y rhai sydd wedi cefnogi'r achos mae'r mynyddwr Syr Chris Bonington, sy'n noddi'r apêl er mwyn codi arian ar gyfer Bryn Gwynant.

Mae'r elusen wedi neilltuo £1.5m ar gyfer gwneud y gwaith adnewyddu, ond maen nhw'n dweud ei bod angen £500,000 ychwanegol fel bod modd dechrau ar y prosiect yn gynnar yn 2020.

Y bwriad yw adeiladu ystafell ddosbarth ar y safle, moderneiddio'r ystafelloedd a'r cyfleusterau, gwneud y lle yn fwy hygyrch a rhoi ystafell 'molchi ymhob un o'r ystafelloedd gwely.

"Mae'n lle grêt, reit ger Y Wyddfa. Mae'n fforddiadwy i bobl fel fi, myfyrwyr sydd heb lawer o arian," meddai Simran Aujla, un o'r ymwelwyr â Bryn Gwynant.

Ychwanegodd y byddai pobl yn cael profiad hyd yn oed yn well pe bai gwelliannau'n cael eu gwneud i'r palas hynafol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r hostel ger Llyn Gwynant, rhwng Beddgelert a Phen-y-Gwryd, ac mae golygfeydd o fynyddoedd Eryri

Mae ymwelwyr yn aml yn dweud bod y lleoliad a'r golygfeydd yn rhai "diguro'"meddai Poppy Brewer, rheolwr yr hostel, ond mae hefyd yn derbyn sylwadau bod angen gwneud gwaith ar yr adeilad.

"Rydych chi'n gallu gweld ei fod yn dechrau dangos ei ddannedd yn anffodus. Dyw hynny ddim yn golygu nad ydyn nhw'n mwynhau aros yma," meddai.

"Ond fe fydden nhw'n hoffi pe byddai ychydig o gariad yn cael ei rhoi i'r lle ac rydyn ni'n teimlo'r un peth."

Mae Mr Ainley yn dweud bod yna fygythiad i ddyfodol y safle os na fyddan nhw'n gallu codi'r arian.

"Rydyn ni'n gwybod bod pobl wrth eu boddau gyda'r rhan yma o Barc Cenedlaethol Eryri, maen nhw wrth eu boddau gyda Bryn Gwynant a phan mae'r cyfleusterau yn briodol rydyn ni'n gwybod y bydd pobl yn heidio yma," meddai.